Ecclesiastes 3

Amser i bopeth

1Mae amser wedi ei bennu i bopeth,
amser penodol i bopeth sy'n digwydd yn y byd:
2Amser i gael eich geni ac amser i farw,
Amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd;
3Amser i ladd ac amser i iacháu,
Amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu;
4Amser i wylo ac amser i chwerthin,
Amser i alaru ac amser i ddawnsio;
5Amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig,
Amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio;
6Amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll,
Amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd;
7Amser i rwygo ac amser i bwytho,
Amser i gadw'n dawel ac amser i siarad;
8Amser i garu ac amser i gasáu;
Amser i ryfel ac amser i heddwch.

9Felly beth mae'r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech?

Duw ac amser

10Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi eu rhoi i bobl eu gwneud: 11Mae Duw'n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o'r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw'n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau.

12Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw. 13Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau.

14Des i'r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: Does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.

15“Mae popeth a fu yn dal i fod,
a popeth fydd fel popeth sydd.
Mae Duw'n gwneud eto
beth sydd wedi mynd heibio.”

Problem Anghyfiawnder

16Peth arall dw i'n ei weld o hyd ac o hyd: Lle byddwn i'n disgwyl cyfiawnder a thegwch mae drygioni!

17Meddyliais, “Bydd Duw yn barnu'r bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sy'n gwneud drygioni. Mae amser wedi ei bennu i bopeth, a bydd pob gweithred yn cael ei barnu.” 18Wedyn meddyliais, “Mae Duw yn gwneud i bobl weld eu bod nhw ddim gwell nag anifeiliaid.” 19Mae tynged pobl ac anifeiliaid yn union yr un fath: mae'r naill a'r llall yn marw, a'r un anadl sy'n eu cadw nhw'n fyw. Dydy pobl ddim gwell nag anifeiliaid. Dydy e'n gwneud dim sens! 20Mae'r ddau yn mynd i'r un lle yn y pen draw; mae'r ddau wedi dod o'r pridd ac yn mynd yn ôl i'r pridd. a 21Does neb wir yn gwybod fod ysbryd pobl yn codi i fyny, ac ysbryd anifeiliaid yn mynd i lawr i'r ddaear.

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

22Felly des i'r casgliad mai'r peth gorau all rhywun ei wneud ydy mwynhau ei waith. Dyna ei unig wobr. Pwy ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl iddo farw?

Copyright information for CYM